MEWN rhaglen arbennig Carys Eleri’n Caru, am 9pm ar Ddydd Santes Dwynwen (Ionawr 25) ar S4C, bydd yr actores yn edrych yn ôl ar hen arferion caru Cymreig ac yn cymryd golwg ar sut mae’r Cymry’n caru heddiw.

Mae Carys Eleri’n wyneb cyfarwydd i S4C; hi oedd yn chwarae rhan Myfanwy yn Parch.

Yn ddiweddar, mae hi wedi teithio’r byd gyda’i sioe gomedi gerddorol wyddonol yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Yn y rhaglen, cawn glywed os oedd y ffordd werinol o garu yn fwy llwyddiannus na'r ffordd fodern.

Ac ar Ynys Llanddwyn, cawn wybod mwy am draddodiadau gwerinol a hudolus.