MI fydd ysgolion Sir Ddinbych a thu hwnt yn dangos eu cefnogaeth ac yn codi arian i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 ar Ionawr 24 trwy wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â’r ardal rhwng Mai 25 a 30 eleni.

Enw’r diwrnod yw Cariad@yrUrdd i gyd-fynd gyda Dydd Santes Dwynwen ar Ionawr 25.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn wyl deithiol sy’n denu tua 90,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Fe’i cynhaliwyd yn yr ardal ddiwethaf yn 2006 yn Rhuthun.

Os oes unrhyw fudiad / cymdeithas / swyddfa yn awyddus i fod yn rhan o’r dathliad yn y gobaith o godi ychydig o arian at yr achos, cysylltwch gyda Lois Hedd, swyddog datblygu’r Urdd yn Sir Ddinbych, ar loishedd@urdd.org / 01745 818604.

Mae nifer o ddeunyddiau marchnata / tocynnau raffl ar gael yn swyddfa’r Urdd yn Ninbych.

Am fwy o fanylion am Eisteddfod yr Urdd, ewch i www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/

Hefyd ymlaen ar Ddiwrnod Santes Dwynwen: Sadwrn Siarad, cwrs undydd i ddysgwyr Cymraeg yn Nhanolfan Iaith Clwyd, Dinbych.

Cysyllter â Popeth Cymraeg i holi mwy 01745 812287.